Ein Stori.
Busnes teuluol wedi ei sefydlu ar fferm ‘Rhydfwyalchen’ yng Ngorllewin Cymru yw Rhyd. Sefydlwyd yn 2023 o ganlyniad o golli gwartheg i TB. O ganlyniad i hyn fe benderfynwyd symud i faes hollol newydd ac i arallgyfeirio’n gyfan gwbl. Gyda diddordeb mawr mewn gwaith pren a dur fe benderfynwyd datblygu’r diddordeb a dechrau busnes.
I gadw’n agos at ein gwreiddiau, fe benderfynwyd dylunio ein logo yn seiliedig ar enw’r ffarm trwy rhannu’r enw yn ddau – ‘Rhyd’ fel yr enw a’r ddyluniad ei hun yn dangos y ‘Fwyalchen’. Creu cynnyrch unigryw o ansawdd i’r cartref yw ein nod gan ddefnyddio deunyddiau o gwmnïau lleol. Mae pob cynnyrch yn cael eu cynllunio’n ofalus a’u creu gennym yn bersonol.
Mae wedi bod yn antur cyffrous iawn ac rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth. Edrychwn ymlaen fel teulu i’r dyfodol!
Rhodri, Bethan, Guto a Garan.





